Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, sy'n penodi aelodau'r cyngor. Maent fel arfer yn rhan o'r cyngor am dair blynedd, ond mae modd ail-benodi unigolion am gyfnod pellach o dair blynedd. 

Maggie Russell, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru

 

Penodwyd Maggie Russell yn Gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru ym mis Ebrill 2023.

Mae ganddi dros 40 mlynedd o brofiad ar bob lefel o'r celfyddydau, treftadaeth ddiwylliannol a'r diwydiannau creadigol mewn cyd-destun Cymreig, Prydeinig a rhyngwladol. Mae ei gyrfa wedi bod yn gyfoethog ac amrywiol gan gynnwys theatr gorfforol arbrofol, gweithio gyda'r gymuned, cynhyrchu digwyddiadau cerddorol ar raddfa fawr, rhedeg lleoliadau a thros 15 mlynedd fel cynhyrchydd ffilm a theledu sydd wedi ennill sawl gwobr. Yn BBC Cymru roedd hi'n rhan o'r uwch dîm rheoli, yn rhedeg yr adran ddrama ac yn Bennaeth Talent. Magwyd Maggie yn Llanrhymni, Caerdydd, graddiodd o Brifysgol Warwig ac yn fwy diweddar gwnaeth hyfforddiant ôl-raddedig proffesiynol fel seicotherapydd.

Caiff ei chymell gan ei phrofiad personol o’r ffaith y gall y celfyddydau wneud gwahaniaeth i fywyd pobl a thrwy weld yn broffesiynol pa mor rymus y gall y gwahaniaeth hwnnw fod - yn ddiwylliannol, yn gymdeithasol ac yn economaidd.

Mae wedi ymrwymo i ehangu mynediad, meithrin talent, datblygu gwaith o'r ansawdd uchaf ac adlewyrchu diwylliant a chelfyddydau Cymru i'w holl bobl a’r tu hwnt i'w ffiniau.

Kate Eden

Mae ganddi dros 15 mlynedd o brofiad mewn swyddi arweiniol a rhyngwladol mewn diwydiant. Daeth yn aelod o’n Cyngor yn 2017. Cafodd brofiad mewn materion cyhoeddus, polisi a chyfathrebu strategol yn y sector fferyllol. Mae hefyd wedi gweithio ar bolisi ynni a gwyddoniaeth.

Cafodd ei geni a’i magu yn y Gogledd. Aeth i Ysgol Alun yn yr Wyddgrug cyn astudio Gwyddorau Cymdeithasol a Gwleidyddol yng Ngholeg y Brenin, Caergrawnt. Erbyn hyn mae’n byw yn y Bannau Brycheiniog. Mae wrthi'n dysgu Cymraeg. Mae hefyd yn Is-gadeirydd a Chyfarwyddwr Anweithredol yn Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cadeirydd Pwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru ac Aelod Annibynnol o Brifysgol Aberystwyth.

Alison Mears Esswood

Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad ym maes addysg gerddorol yn sector yr ysgol a'r conservatoire. Ar hyn o bryd hi yw Cyfarwyddwr Diogelu ac Artistiaid Ifanc Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall. Hi sy’n gyfrifol am yr holl hyfforddiant arbenigol i’r rhai dan 18 oed ym meysydd Cerddoriaeth, Drama a'r Celfyddydau Cynhyrchu sy’n cynnwys:

· y Guildhall Iau

· Canolfan Cerddorion Ifanc Llundain

· pedair canolfan ranbarthol

· Cerddorfa Symffoni Ysgolion Llundain

Cyn hynny roedd ganddi swyddi rheoli eraill yn y Guildhall gan gynnwys pennaeth y Guildhall Iau. Yn 2017 cafodd ei gwneud yn Gymrawd i’r Guildhall.

Roedd yn gyd-gyfarwyddwr artistig yn Ŵyl Machen Isaf gan gynnwys adeg dathlu ei hanner can mlynedd yn 2017. Bu'n dysgu yn Adran Iau Coleg Cerdd a Drama Cymru a gweithio’n llawrydd i sawl sefydliad celfyddydol yng Nghaerdydd. Am ddeng mlynedd roedd yn aelod hefyd o Gorws Cenedlaethol BBC Cymru.

Devinda De Silva

Mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad o weithio ym maes newid cymdeithasol. Mae wedi gweithio mewn partneriaeth gyda chymunedau ledled Cymru a thramor gan ganolbwyntio ar y celfyddydau a'u gallu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac annog cyfranogiad ehangach a mwy ystyrlon.

Ef yw un o sylfaenwyr National Theatre Wales. Ac yntau’n Bennaeth Cydweithio, mae wedi arwain ar greu a datblygu’r rhaglen TEAM – dull arloesol y theatr o ymgysylltu.

Ar hyn o bryd mae ganddo swyddi ymgynghorol gyda Sefydliad Baring a Choleg Caerdydd a’r Fro.

Gwennan Mair Jones

Mae’n Gyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol Theatr Clwyd, Hwylusydd Drama a Chyfarwyddwr. Daeth ei hangerdd am y celfyddydau cymunedol i’r amlwg pan oedd yn ifanc yn Llan Ffestiniog. Pan oedd yn 18 oed, aeth i astudio Drama yn Sefydliad Celfyddydau Perfformio Lerpwl. Dychwelodd i’r Gogledd i weithio i Frân Wen. Mae’n arwain ar waith cymunedol Theatr Clwyd i  gynyddu eu darpariaeth Gymraeg mewn gweithdai rhwng y cenedlaethau, creu cysylltiadau â phartneriaethau (er enghraifft y gwasanaethau cymdeithasol) a hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o hwyluswyr Cymraeg. Cymuned, hygyrchedd a newid cymunedau drwy'r celfyddydau sydd wrth wraidd ei gwaith.

Lhosa Daly

Hi yw Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithrediadau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn y De. Cyn hynny hi oedd Cyfarwyddwr Gweithredol Ynys Spike, hwb creadigol Bryste.

Yno roedd ganddi gyfrifoldeb cyffredinol dros weithrediadau, masnachu, ymwelwyr, cyllid a chodi arian.

Cyn hynny, roedd yn Bennaeth Datblygu yn Oriel Gyfoes Turner, Margate. Hi yw:

· Cadeirydd Sefydliad Cyfarwyddwyr Bryste

· Is-gadeirydd, Creadigol a Digidol i Bartneriaeth Menter Leol Gorllewin Lloegr

· Ymddiriedolwr Canolfan y Gyfraith dros Avon a Bryste

· Cynrychiolydd y De-orllewin i Engage, y Gymdeithas Genedlaethol am Addysg Oriel

Mae’n gyfreithiwr cymwys ym Mhrydain ac Efrog newydd. Roedd wedi astudio’r gyfraith ym Mhrifysgol Manceinion cyn gweithio i rai o'r sefydliadau proffesiynol mwyaf y byd, gan gynnwys:

· Cyfreithwyr Andersen, Manceinion

· Herbert Smith, Llundain

· Ernst a Young, Efrog Newydd

Ers dychwelyd i Brydain mae’n gweithio i KPMG ac Ernst a Young ym Mryste.

Sarah Younan

Cafodd ei geni yn yr Almaen a’i chodi yng Nghenia. Bu’n gweithio ym meysydd adfer gwaith celf, theatr a chynllunio llwyfan yn yr Almaen, Ffrainc a'r Iseldiroedd. Symudodd i Gymru yn 2009 i astudio serameg. Gydag ysgoloriaeth AHRC cafodd PhD o Ysgol Gelf Caerdydd yn 2015. Roedd ei hymchwil yn canolbwyntio ar ddefnyddio casgliadau treftadaethol wedi'u digideiddio mewn amgueddfeydd yn adnoddau o ddiwylliant agored, creadigol ac addysgol.

Mae wedi arddangos gwaith ym Mhrydain a thramor ac wedi gweithio yn y sector amgueddfaol yn Ffrainc a Thwrci. Mae’n angerddol am greu cyfleoedd drwy ddiwylliant. Ar hyn o bryd hi yw Cydlynydd Ymgysylltu Ieuenctid.

Tudur Hallam

Mae wedi’i benodi i Gadair y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Yno mae ganddo brofiad o ddarlithio ac ymchwilio ers 20 mlynedd. Mae'n awdur academaidd a bardd. Yn 2010 roedd wedi ennill cadair yr Eisteddfod ac eleni bydd yn cyhoeddi cyfrol o farddoniaeth. Ymhlith ei gyhoeddiadau mae ymdriniaethau:

· am lenyddiaeth a theatr Cymru

· am berthynas y Gymraeg a’r Saesneg yng Nghymru

· am Saunders Lewis a Dylan Thomas, comisiwn i’r Academi Brydeinig

Yn ddiweddar aeth yn Athro Ymchwil sy’n ymweld â Phrifysgol Houston. Yno mae’n datblygu gwaith cymharol ym maes diwylliannau deuol, diolch i gymrodoriaeth gan Gomisiwn Fullbright. Mae’n dod o Sir Gâr lle mae’n byw gyda’i deulu. Mae hefyd yn llywodraethwr mewn ysgol leol ac yn hyfforddwr pêl-droed i bobl ifanc yng Nghwm Gwendraeth.

Victoria Provis

Mae’n dod o Gaerdydd yn wreiddiol. Roedd wedi astudio yng Ngholeg yr Iwerydd cyn symud dramor i ennill BA (Anrhydedd) mewn Economeg ym Mhrifysgol Colymbia Brydeinig ac MBA yn Sefydliad Gweinyddu Busnes Ewrop yn Ffrainc. Cafodd yrfa yn y meysydd hyn:

· cyfathrebu corfforaethol (Burson-Marsteller)

· ymgynghori strategol (McKinsey a’i gwmni)

· recriwtio (Odgers Berndtson, Llundain a Chaerdydd)

Yn ddiweddar mae wedi treulio cyfnodau yn y swyddi anweithredol hyn:

· Aelod o Glas Cymru

· Aelod o Fwrdd Ymgynghorol Twristiaeth Cymru

· Ymddiriedolwr Amgueddfa Genedlaethol Cymru (2010-Mawrth 2019)

Yn yr Amgueddfa roedd yn cadeirio ei Bwrdd Datblygu pan oedd Sain Ffagan yn cael ei hailddatblygu. Ar hyn o bryd mae'n aelod o Gyngor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Prue Thimbleby

Ers 2012 mae’n arwain Tîm y Celfyddydau a Threftadaeth ym Mwrdd Iechyd Bae Abertawe. Erbyn hyn mae'r tîm wedi tyfu o ddau i saith aelod o staff i gyflwyno rhaglen gelfyddydol sy’n cynnwys cyflogi artistiaid i weithio ar adeiladau, arddangosfeydd treftadaeth, prosiectau drama er lles staff a dawns i atal cwympo.

Mae wedi sefydlu rhaglen adrodd straeon digidol i gleifion a hyfforddi staff y GIG ledled Prydain. Mae wedi hwyluso llawer o straeon y cleifion i wella gofal iechyd gan gynnwys newid y broses gofnodi, gwella trin cancr a datrys cwynion. Trefnodd gynadleddau rhyngwladol, Adrodd Straeon er Iechyd, sydd bellach yn digwydd yn  rheolaidd ar draws y byd.

Cyn arwain gwaith y Celfyddydau mewn Iechyd, roedd yn artist llawrydd a rheolwr celfyddydol am 20 mlynedd a chyn hynny'n nyrs a bydwraig. Roedd yn Gyfarwyddwr Celfyddydol i un o brosiectau Olympiad Diwylliannol 2012, creodd gerfluniau helyg a datblygodd ganolfan gelfyddydol gymunedol.

Tafsila Khan

Mae Tafsila yn gofrestredig yn ddall ac yn Ymgynghorydd Hygyrchedd llawrydd yn sector y celfyddydau. Ei nod yw gwella profiadau pobl ddall a rhannol ddall ym maes diwylliant. Ar hyn o bryd mae'n datblygu ei sgiliau fel cyfarwyddwr theatr.

Elen Ap Robert

Mae’n gweithio yn y celfyddydau ers dros 30 mlynedd, fel canwr opera, aelod o Gerdd Fyw Nawr Cymru a therapydd cerdd ym maes addysg ac iechyd. Yn 2005 aeth yn gyfarwyddwr artistig cyntaf Galeri Caernarfon ac wedyn yn gyfarwyddwr artistig cyntaf Pontio, Prifysgol Bangor (2012-19). Mae bellach yn gweithio fel ymgynghorydd celfyddydol am ddatblygu gwaith Cymraeg. Mae ganddi brofiad o lywodraethu a chyfathrebu. Cafodd ei magu yn Gymraeg yng Nghaerdydd. Erbyn hyn mae'n byw yn y Felinheli. Mae’n credu yng ngrym y celfyddydau i drawsnewid bywyd pobl. Mae ar Fwrdd Cyfarwyddwyr Opera Genedlaethol Cymru ac yn cadeirio panel artistig yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ruth Fabby MBE

Mae’n byw yng Nghaerdydd. Fel Cyfarwyddwr Celfyddydau Anabledd Cymru ers Awst 2019 mae’n arwain y sefydliad i greu Cymru greadigol a chyfartal lle mae pobl anabl a Byddar wrth wraidd y celfyddydau.

Cyn hynny, hi oedd sylfaenydd a Chyfarwyddwr Artistig DaDaFest, un o wyliau mwyaf llwyddiannus y byd ym maes celfyddydau anabledd.

Cafodd ei hyfforddi yn y celfyddydau perfformio, lleferydd a drama yn Ysgol Theatr Lerpwl. Ers dechrau ei gyrfa mae’n gweithio yn y celfyddydau a chelfyddydau anabledd.

Mae’n ystyried hawliau anabledd yn hawliau dynol ac mae'n traethu’n angerddol ar y pwnc.

Ceri Ll Davies

Aeth i Ysgol Uwchradd Treganna, Caerdydd ac astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Rhydychen.

Mae ganddi brofiad o addysg gelfyddydol a defnyddio technoleg gelfyddydol yn sgil gweithio ym maes gweithredu cymdeithasol, cerddoriaeth gymunedol a dysgu creadigol drwy'r celfyddydau. Yn ei 15 mlynedd yn adran Dysgu’r BBC, cynhyrchodd gynnwys celfyddydol yn Gymraeg a Saesneg ac arweiniodd dimau ledled Prydain fel cynhyrchydd gweithredol.

Mae’n credu bod cyfranogi o’r celfyddydau yn gwella bywyd ar bob lefel.